Scott Williams
Mae canolwr y Scarlets Scott Williams wedi mynnu fod y tîm yn teimlo’n “bositif” wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Caerlŷr heno yn un o gemau mwyaf eu tymor.
Fe fydd gan ba bynnag dîm fydd yn fuddugol yn Welford Road heno dal obaith o ddal Toulon ar frig eu grŵp yng Nghwpan Ewrop, ac felly cyrraedd rownd yr wyth olaf.
Ond mae anafiadau wedi gwanhau’r Scarlets, gyda’r capten Ken Owens a’r cefnwr Liam Williams ymysg 13 o chwaraewyr fydd ddim ar gael.
Ond fe fydd yn rhaid i’r tîm wella o’u perfformiad yr wythnos diwethaf, gyda’r sylwebydd Gwyn Jones yn dweud eu bod yn “siomedig ar y naw” yn ystod y golled i Glasgow yn y Pro12.
“Gêm enfawr”
Llwyddodd y Scarlets i drechu Caerlŷr 15-3 nôl ym mis Hydref ar eu tomen eu hunain, diolch i geisiau gan Harry Robinson ac Aled Davies.
Mae’r ddau yna’n rhan o dîm y Scarlets heno hefyd ac mae Scott Williams, y capten, yn hyderus fod modd efelychu’r canlyniad hwnnw.
“Rydym ni’n teimlo’n bositif. Mae e i gyd ar y penwythnos yma a dweud y gwir, bydd un tîm dal ynddi penwythnos nesa’ – rhaid i ni drio gwneud yn siŵr mai ni fydd e,” meddai Scott Williams.
“Fe ddangoson ni ein bod ni cystal â nhw pan ddaethon nhw yma, mae’n blaenwyr ni’n gwella o hyd ac mae e’n arf i ni nawr.
“Bydd e’n le anodd i fynd. Hon yw un o gemau mwyaf y tymor i ni, mae’n gêm enfawr.”
Ac mae’r canolwr yn credu bod y Scarlets wedi gwneud yn dda hyn yn hyn yn Ewrop o ystyried pa mor anodd oedd eu grŵp, sydd hefyd yn cynnwys Ulster a phencampwyr Ewrop Toulon.
“Roedd llawer o bobl yn dweud yn gynnar fod gennym ni ddim siawns, fi’n credu ein bod ni wedi newid barn rhai pobl,” ychwanegodd Williams.
“Rydym ni wedi dangos bod ni’n gallu mynd bant a churo timau fel Harlequins, fydd e’n ddim gwahanol penwythnos yma – fe allwn ni wneud e ond bydd angen perfformiad enfawr.”
Y gêm yn fyw ar Sky Sports gyda’r gic gyntaf am 7.45, ac uchafbwyntiau i ddilyn ar S4C am 10.30 heno.