Fe fydd Rhys Patchell yn dychwelyd fel cefnwr pan fydd y Gleision yn herio Rovigo yn eu gornest yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener ar Barc yr Arfau.
Dim ond tri chwaraewr – Gareth Anscombe, Cory Allen a Josh Turnbull – sydd yn cadw eu lle o’r tîm a gollodd i Leinster y penwythnos diwethaf.
Bydd Adam Thomas yn ymuno ag Allen yng nghanol cae, Lloyd Williams yn dechrau fel mewnwr, a Richard Smith a Geraint Walsh ar yr asgell.
Y bachwr Matthew Rees sydd wedi ei ddewis fel capten, ac fe fydd Sam Hobbs a Taufa’ao Filise yn ymuno ag ef yn y rheng flaen.
Mae’r Gleision yn hafal ar frig Grŵp Un gyda Gwyddelod Llundain ar hyn o bryd, ar 14 o bwyntiau.
Tîm y Gleision: Rhys Patchell, Richard Smith, Cory Allen, Adam Thomas, Geraint Walsh, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Sam Hobbs, Matthew Rees (capt), Taufa’ao Filise, Scott Andrews, Chris Dicomidis, Josh Turnbull, Ellis Jenkins, Manoa Vosawai
Eilyddion: Rhys Williams, Thomas Davies, Craig Mitchell, Kristian Dacey, Macauley Cook, Lewis Jones, Gareth Davies, Gavin Evans