Mae prif hyfforddwr y Scarlets wedi cyfaddef nad yw’n gallu gwneud rhyw lawer am yr anafiadau yn y garfan, wrth iddo enwi ei dîm i herio Caerlŷr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd y bachwr Ryan Elias yn chwarae am y tro cyntaf mewn gêm Ewropeaidd wrth i’r rhanbarth orfod dygymod a chwe anaf i chwaraewyr o’r rheng flaen.

Ymysg y chwaraewyr sydd ddim ar gael mae’r capten Ken Owens, Emyr Phillips, Samson Lee, Rhodri Jones, Kirby Myhill a Phil John.

Mae’n golygu mai Rob Evans a Jacobie Adriaanse fydd yn ymuno â Ryan Elias yn y rheng flaen wrth i’r Scarlets chwilio am fuddugoliaeth allai gadw eu gobeithion o barhau yn y gystadleuaeth yn fyw.

Anghofio’r gynghrair

Mae’r Scarlets yn ail yn y tabl ar hyn o bryd gydag wyth pwynt ar ôl ennill dau a cholli dau o’u gemau.

Toulon sydd ar y brig gydag 13 pwynt, a bydd yn rhaid i’r Scarlets drechu Caerlŷr nos Wener yn ogystal ag ennill yn erbyn Toulon y penwythnos nesaf os am sicrhau lle yn y rownd nesaf.

Mae hynny’n golygu bod y tîm wedi gorfod anghofio am y gynghrair am y tro, yn ôl yr hyfforddwr.

“Rydyn ni dal ynddi, ni wedi siarad yr wythnos hon a dweud ‘beth am anghofio’r Pro12’. Rydyn ni wedi perfformio’n dda yn y pedair gêm gyda dwy fuddugoliaeth,” meddai Wayne Pivac.

“Ni wedi siarad am y perfformiad oddi cartref yn erbyn Toulon a dyna’r math o ymdrech fydd yn rhaid i ni roi mewn yn erbyn y Teigrod mas fan hyn.

“Mae’n gêm fawr, mae lot yn dibynnu arno fe – ni’n ail, yn hafal gyda Chaerlŷr, ac mae gan enillydd y gêm hon dal siawns wythnos nesaf.”

Tîm y Scarlets: Jordan Williams, Harry Robinson, Regan King, Scott Williams (capt), Hadleigh Parkes, Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Ryan Elias, Jacobie Adriaanse, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, John Barclay, Rob McCusker

Eilyddion: Darran Harris, Wyn Jones, Peter Edwards, Lewis Rawlins, James Davies, Rhodri Williams, Steven Shingler, Rory Pitman