Mae Caerdydd wedi cadarnhau fod yr ymosodwr Javi Guerra wedi ymuno â Malaga ar fenthyg am weddill y tymor.

Cafodd y Sbaenwr ei arwyddo am ddim yn yr haf gan y rheolwr Ole Gunnar Solskjaer ar ôl i’w gytundeb yn Valladolid ddod i ben.

Ond ers i Solskjaer gael y sac ym mis Medi mae rheolwr newydd Caerdydd Russell Slade wedi bod yn awyddus i leihau maint y garfan.

Mae Slade eisoes wedi rhyddhau Juan Cala a Mats Daehli, dau o’r chwaraewyr a arwyddodd Solskjaer nôl ym mis Ionawr 2014.

Dim ond pum gwaith y mae Guerra wedi chwarae dros Gaerdydd y tymor hwn, a dyw Russell Slade ddim wedi ei ddewis unwaith, felly roedd disgwyl y byddai’n gadael y clwb yn ystod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.

Mae Slade eisoes wedi dechrau ychwanegu chwaraewyr newydd i’w garfan, gan arwyddo’r ymosodwr Alex Revell o Rotherham a’r amddiffynnwr Scott Malone o Millwall.