Mae Abertawe wedi cadarnhau bod Wilfried Bony wedi cwblhau ei drosglwyddiad i Man City.

Cafodd y ‘newyddion’ ei drydar yn gynharach heddiw gan Gymdeithas Bêl-Droed y Côte d’Ivoire, ond dywedodd yr Elyrch y bydden nhw’n gwneud cyhoeddiad pan ddeuai’r cadarnhad yn swyddogol.

Dydyn nhw ddim wedi datgelu faint mae Man City wedi talu am yr ymosodwr, ond mae lle i gredu mai oddeutu £28 miliwn yw’r ffi – £25 miliwn ar unwaith, gyda hyd at £3 miliwn ychwanegol yn ddibynnol ar gymalau yn ei gytundeb.

Mae Bony wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd a hanner, ac fe fydd e’n gwisgo crys rhif 14.

Ar eu tudalen Twitter, dywedodd yr Elyrch eu bod nhw’n diolch i Bony am ei “wasanaeth gwych” i’r clwb, ac yn dymuno’n dda iddo am y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Bony i ffwrdd gyda’i dîm cenedlaethol yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica.

Symudodd Bony i’r Liberty o Vitesse Arnhem yn yr Iseldiroedd am £12 miliwn yn 2012.

Yn ystod ei flwyddyn a hanner yng Nghymru, mae e wedi gwneud enw i’w hun fel un o ymosodwyr gorau’r Uwch Gynghrair, gan sgorio 26 gôl y tymor diwethaf a naw arall y tymor hwn.

Bafetimbi Gomis a Marvin Emnes yw’r unig brif ymosodwyr yng ngharfan Abertawe bellach.

Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo’r asgellwr Matty Grimes o Gaerwysg fis hwn am ffi o £1.75m, ond mae gwerthu Bony yn golygu bod gan y rheolwr Garry Monk lawer mwy o arian i gryfhau ei garfan.