Mae rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin wedi dweud ei fod yn gobeithio arwyddo chwaraewyr newydd cyn y penwythnos.
Fe wnaeth y clwb swm taclus o arian o’u rhediad yng Nghwpan FA Lloegr y tymor hwn, gan deithio i Stoke o’r Uwch Gynghrair yn y drydedd rownd.
Diolch i hynny fe fydd gan Wilkin ychydig o arian i geisio cryfhau ei garfan yn ystod mynd a dod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.
Herio Telford
Llwyddodd Wrecsam i gyrraedd trydedd rownd Tlws FA Lloegr neithiwr gyda buddugoliaeth o 6-1 yn erbyn Stockport diolch i goliau gan Wes York, Andy Bishop, Louis Moult a Stephen Tomassen.
Fe fyddan nhw nôl yn chwarae yn y gynghrair dydd Sadwrn, pan fyddan nhw gartref yn erbyn Telford, ac mae Wilkin yn gobeithio dod a chwaraewyr newydd mewn cyn hynny.
“Fe allai un neu ddau fod yn dod mewn cyn dydd Sadwrn gobeithio,” meddai Kevin Wilkin ar ôl y gêm neithiwr.
“Rydyn ni wedi gwneud ymholiadau, ond fe welwn ni beth yw’r sefyllfa yn y bore a gweld sut mae pethau, ac os allwn ni gael chwaraewr neu ddau cyn dydd Sadwrn byddai hynny’n grêt.”
Fe ychwanegodd y rheolwr ei fod yn gobeithio y byddai’r amddiffynnwr Blaine Hudson a’r ymosodwr Elliott Durrell yn ffit i herio Telford, ond nad oedd yn siŵr eto am ffitrwydd y golwr Daniel Bachmann.
Mae Wrecsam yn 16eg yn y Gyngres ar hyn o bryd, deg pwynt i ffwrdd o’r gemau ail gyfle ac 13 yn uwch na safleoedd y cwymp, ond maen nhw wedi chwarae dwy neu dair gêm yn llai na’r rhan fwyaf o dimau eraill.