Mae blaenasgellwyr y Gleision Josh Navidi a Josh Turnbull yn gwneud popeth y gallan nhw i ennill lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ôl eu hyfforddwr.
Dywedodd Paul John eu bod yn “gwneud popeth posib” i gael eu dewis pan fydd Warren Gatland yn enwi ei garfan dydd Mawrth nesaf ar gyfer y bencampwriaeth.
Bydd Cymru’n herio Lloegr nos Wener, 6 Chwefror yn Stadiwm y Mileniwm yng ngêm gyntaf y gystadleuaeth, cyn teithio i Gaeredin i herio’r Alban y penwythnos canlynol.
Y ddau Josh yn gobeithio
Mae gan ranbarthau Cymru ddwy gêm Ewropeaidd yr un nes y bydd y chwaraewyr rhyngwladol hynny’n gadael i ymuno â’r tîm cenedlaethol.
Bydd Turnbull a Navidi yn gobeithio cael eu dewis ar gyfer y garfan honno, ar ôl tymor ble mae’r ddau wedi gwneud eu marc i’r Gleision.
Ond maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n wynebu her i ennill eu lle gyda chwaraewyr fel Sam Warburton, Dan Lydiate, Taulupe Faletau, Dan Lydiate a James King yn cystadlu am le hefyd.
Un cap sydd gan Navidi, o’r daith i Siapan yn 2013, tra bod gan Turnbull lond llaw o gapiau yn dyddio nôl i 2011.
A dyw hyfforddwr y Gleision Paul John ddim yn credu y gall y ddau wneud mwy i hawlio lle yn y garfan.
“Maen nhw’n gwneud popeth posib a gallwch chi ddim gofyn mwy gan y ddau,” medai Paul John.
“Maen nhw wedi bod yn wych i ni; maen nhw’n chwarae’n dda bob wythnos ac yn sicr yn rhoi eu dwylo lan a denu sylw.
“Yn amlwg mae’r garfan yn cael ei chyhoeddi wythnos nesaf a ni’n gobeithio cael tipyn o gynrychiolaeth, ond i fod yn deg i’r ddau, allan nhw ddim gwthio mwy ac maen nhw wedi bod yn wych.”