Wilfried Bony
Mae disgwyl i Wilfried Bony gwblhau ei drosglwyddiad o Abertawe i Man City heddiw ar ôl i’r ddau glwb fod mewn trafodaethau dros y dyddiau diwethaf.
Fe drydarodd cyfrif swyddogol tîm cenedlaethol Traeth Ifori fore Mercher fod Bony newydd arwyddo i’w glwb newydd, ond hyd yn hyn dyw Man City heb gadarnhau hynny yn swyddogol.
Mae Abertawe wedi wfftio’r adroddiadau, gan ddweud y daw cyhoeddiad swyddogol pan fydd cadarnhad o’r trosglwyddiad.
Ar hyn o bryd mae Bony i ffwrdd gyda’i dîm cenedlaethol wrth i Draeth Ifori gystadlu yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica.
Mae disgwyl y bydd yr ymosodwr yn symud o Abertawe am ffi o tua £28m, dim ond 18 mis ers i’r Elyrch ei arwyddo o Vitesse Arnhem yn yr Iseldiroedd am £12m.
Yn ei flwyddyn a hanner yng Nghymru mae wedi gwneud enw i’w hun fel un o ymosodwyr gorau’r Uwch Gynghrair, gan sgorio 26 gôl y tymor diwethaf a naw arall y tymor hwn yn barod.
Byddai ymadawiad Bony yn gadael Bafetimbi Gomis a Marvin Emnes fel yr unig brif ymosodwyr yng ngharfan Abertawe.
Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo’r asgellwr Matty Grimes o Gaerwysg fis hwn am ffi o £1.75m, ond fe fyddai gwerthu Bony yn golygu fod gan y rheolwr Garry Monk lawer mwy o arian i gryfhau ei garfan.
Wilfried Bony has NOT yet completed his move to @MCFC. Once completed, we will confirm via official channels – not the Ivory Coast FA! #busy
— Swansea City FC (@SwansOfficial) January 14, 2015