Mae’r Gleision wedi cyhoeddi fod yr olwr Richard Smith wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb fydd yn ei gadw ym Mharc yr Arfau BT Sport tan 2017.

Mae’r asgellwr 27 oed sydd hefyd yn chwarae fel canolwr wedi chwarae deg gwaith dros y rhanbarth y tymor hwn gan sgorio tair cais.

Fe ymunodd Smith â’r Gleision o Glwb Rygbi Caerdydd yn 2013, ac mae hefyd yn cyfri Castell-nedd a Brisbane Bulldogs yn Awstralia ymysg ei gyn-glybiau.

Roedd hefyd yn gyn-aelod o dîm saith bob ochr Cymru nôl yn 2011 gan chwarae mewn cyfresi yn ninasoedd Bucharest, Barcelona a Moscow.

“Mae cytundeb newydd yn beth enfawr i fi a fi wrth fy modd ymestyn fy nghyfnod yma gyda’r Gleision,” meddai Richard Smith.

“Pan arwyddais i’r cytundeb diwethaf roeddwn i’n edrych ymlaen at weithio mor galed â phosib i fod yn rhan o’r rhanbarth yn ystod cyfnod o newid dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae pethau’n newid ac rydyn ni’n parhau i ddatblygu a fi ishe bod yn rhan o hynny. Fi’n falch iawn o gael y cytundeb newydd ac yn gyffrous ar gyfer y dyfodol.”