Gareth Bale
Mae Cristiano Ronaldo wedi mynnu fod Gareth Bale yn “allweddol” i dîm Real Madrid ac wedi erfyn ar gefnogwyr y clwb i “fod yn neis iddo” ar ôl iddyn nhw ei fwio dros y penwythnos.

Fe ddangosodd y cefnogwyr eu hanhapusrwydd ar ôl i Bale beidio â phasio’r bêl i Ronaldo am gyfle hawdd i sgorio, ac yn hytrach methu’r cyfle ei hun.

Ond fe gyfaddefodd Ronaldo ei fod ef ei hun yn gwneud “camgymeriadau” ar adegau, ac na ddylai’r cefnogwyr ddal dig yn erbyn y Cymro.

Bale yn “allweddol”

Cafodd Ronaldo a chefnogwyr Real Madrid eu digio ar ôl i Bale fethu â phasio’r bêl i’w gyd-chwaraewr yn ystod buddugoliaeth ei dîm o 3-0 dros Espanyol dydd Sadwrn.

Roedd Bale eisoes wedi sgorio cic rydd yn ystod y gêm, ond roedd hi’n ymddangos fel petai’r cefnogwyr yn credu fod chwaraewr drytaf y byd wedi bod yn rhy hunanol ar adegau eraill.

Neithiwr, wrth iddo gasglu ei wobr Ballon d’or- am chwaraewr gorau’r byd, fe ddywedodd Ronaldo ei bod hi’n bryd anghofio’r mater.

“Mae cefnogwyr Madrid wastad yr un peth, yn frwdfrydig iawn, maen nhw’n dangos sut maen nhw’n teimlo, dydyn nhw ddim yn dweud celwydd,” meddai Ronaldo.

“Ond mae beth ddigwyddodd gyda Gaz yn normal achos maen nhw’n gwybod fod Gaz yn chwaraewr pwysig i ni, yn chwaraewr allweddol.

“Mae beth ddigwyddodd dydd Sadwrn yn y gorffennol, weithiau rydw i’n gwneud camgymeriadau hefyd felly mae’n rhan o bêl-droed. Dw i’n meddwl bydd pobl yn neis gyda fe, ac fe ddylen nhw fod yn neis gyda fe.”

Ballon d’or-

Cafodd Ronaldo ei enwi fel chwaraewr gorau’r byd am yr ail flwyddyn yn olynol yn seremoni Ballon d’or- FIFA neithiwr, y trydydd gwaith i’r gŵr o Bortiwgal ennill y tlws.

Yr Archentwr Lionel Messi ddaeth yn ail, gyda golwr yr Almaen Manuel Neuer yn drydydd.

Roedd capten, rheolwr, ac un cynrychiolydd o’r wasg o bob gwlad yn cael pleidleisio am bwy roedden nhw’n credu oedd yn haeddu’r tlws.

Dewisodd 17 o bobl Gareth Bale yn eu tri uchaf, gan gynnwys capten Cymru Ashley Williams a’r rheolwr Chris Coleman.

Roedd Bale hefyd yn ail ddewis gan Ronaldo, ac ymysg y chwaraewyr eraill a bleidleisiodd dros y Cymro roedd Wayne Rooney, y Gwyddel Robbie Keane, a Keisuke Honda o Siapan.