Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Rhys Edwards, wedi dewis pump o chwaraewyr sydd heb ennill cap yn y garfan ar gyfer y Chwe Gwlad eleni.

Mae tri o’r chwaraewyr, Rebecca Rowe, Melissa Clai ac Amy Evans, wedi cael eu dewis ar ôl cael eu mentora trwy raglen adnabod talent Undeb Rygbi Cymru a gafodd ei gynnal ym mis Medi’r llynedd.

Dim ond 17 mlwydd oed yw’r maswr Keira Bevan ond mae Rhys Edwards yn credu ei bod hi’n un o sêr y dyfodol, tra bod Hannah Jones wedi bod yn rhan o’r garfan y llynedd er nad yw hi wedi ennill cap eto.

Er gwaethaf hir ddyfalu a fyddai grŵp craidd o chwaraewyr yn ymddeol yn dilyn Cwpan y Byd yn yr haf, mae’r chwaraewyr profiadol Jenny Davies, Catrin Edwards a Rachel Taylor – sydd wedi ennill 174 o gapiau rhyngddynt – i gyd wedi penderfynu dychwelyd am dymor arall.

Meddai Rhys Edwards: “Mae Keira wedi gwneud yn arbennig o dda’r tymor hwn. Mae hi’n perfformio i safon uchel gyda thîm saith bob ochr Cymru ac yn disgleirio yn y gystadleuaeth ranbarthol.

“Mae’n wych bod chwaraewyr o safon Tails, Cat a Triog yn parhau i chwarae hefyd. Maen nhw’n llawn gwybodaeth a phrofiad ac yn benderfynol o adael etifeddiaeth gan sicrhau lle Cymru yng Nghwpan y Byd i’r genhedlaeth nesaf.”

Bydd tîm Cymru’n dechrau’r ymgyrch Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr yn Abertawe ar ddydd Sul 8 Chwefror.