Mark Jones
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau y bydd hyfforddwr ymosod a chyn gapten y clwb, Mark Jones yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.
Mae cyn asgellwr y Scarlets a Chymru wedi bod gyda’r clwb fel chwaraewr a hyfforddwr ers 15 mlynedd ond mae wedi penderfynu symud ymlaen.
Fel chwaraewr, fe wnaeth Mark Jones chwarae 163 o weithiau i glwb Llanelli ac yna’r Scarlets dros gyfnod o 12 tymor, gan sgorio 85 o geisiau.
Yn 2009-10, cafodd ei benodi’n gapten y Scarlets, ond bu’n rhaid iddo ymddeol ar ddiwedd y tymor hwnnw oherwydd anaf.
Yn dilyn ei ymddeoliad, cafodd Mark Jones ei benodi’n hyfforddwr sgiliau ac yna’n hyfforddwr ymosod gyda’r Scarlets. Yn 2012 a 2013, cafodd hefyd alwad i gynorthwyo tîm hyfforddi Cymru.
Wrth sôn am ei benderfyniad, dywedodd Mark Jones ei fod yn “ddiolchgar i’r Scarlets am yr holl gyfleoedd a phrofiadau” mae o wedi eu cael dros y blynyddoedd.
Meddai: “Mae’r Scarlets wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ond dwi’n teimlo fod yr amser yn iawn i herio fy hun ymhellach, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol ac at y bennod nesaf.”