Leigh Halfpenny
Cafwyd gwledd o geisiau yn ne Ffrainc wrth i bedwar o’r Cymry oddi Cartref wynebu ei gilydd ar y cae yng nghynghrair Top 14 Ffrainc.
Toulon gipiodd y fuddugoliaeth o 32-23 yn erbyn Racing Metro, a doedd dim amheuaeth mai’r cefnwr Leigh Halfpenny oedd seren y gêm.
Sgoriodd y Cymro gais agoriadol Toulon, trosi tri o’u ceisiau a chicio dwy gic gosb i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Roedd Luke Charteris, Mike Phillips a Jamie Roberts yn nhîm Racing, gyda Roberts cael cerdyn melyn yn yr hanner cyntaf ond yna’n llwyddo i sgorio cais wedi’r egwyl.
Fe aeth y ddau Gymro arall yn Ffrainc benben dros y penwythnos hefyd, wrth i Jonathan Davies a Clermont herio Kieran Murphy a Brive.
Clermont oedd y fuddugol o 44-20, gyda Davies a Murphy ar y cae nes y diwedd a Murphy yn sgorio cais gysur hwyr i’r ymwelwyr.
Yng Nghynghrair Aviva Lloegr fe gipiodd Sale fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn George North a Northampton, sydd ar frig y tabl, o 20-7.
Sgoriodd y prop Eifion Lewis-Roberts gais gyntaf Sale, gyda Marc Jones a Jonathan Mills hefyd yn rhan o’r pac buddugol a’r maswr Nick Macleod yn dod oddi ar y fainc.
Daeth Paul James a Dominic Day oddi ar y fainc i Gaerfaddon wrth iddyn nhw ennill o 39-26 yn erbyn tîm Wasps oedd yn cynnwys Bradley Davies ac Ed Shervington.
Cipiodd James Hook y fuddugoliaeth i Gaerloyw yn erbyn Saracens wrth drosi cic gosb yn y munud olaf i ennill y gêm o 24-23.
Daeth Richard Hibbard a Rhys Gill oddi ar y fainc i’w timau yn ystod y gêm, ond Hook serennodd gan drosi un cais a chicio pedair cic gosb gan gynnwys yr un hwyr tyngedfennol.
Colli’n drwm o 32-12 yn erbyn Harlequins wnaeth Owen Williams a Chaerlŷr, er iddyn nhw gael dechrau da i’r gêm gyda Williams yn trosi tair cic gosb i roi ei dîm 9-3 ar y blaen.
Llwyddodd Gwyddelod Llundain i drechu Caerwysg o 28-26 mewn agos, gyda dau Gymro – Andy Fenby i’r Gwyddelod a Phil Dollman i Gaerwysg – yn wynebu ei gilydd fel cefnwyr.
Ac yn y frwydr ar waelod y tabl fe chwaraeodd Nathan Trevett, James Down a Rob Lewis i Gymry Llundain yn erbyn Newcastle wrth iddyn nhw gael cweir arall o 38-7.
Seren yr wythnos – Leigh Halfpenny. Amryw un wedi serennu, ond cais a chiciau Halfpenny yn allweddol i fuddugoliaeth Toulon.
Siom yr wythnos – George North. Methu gwneud ei farc wrth i’w dîm golli’n annisgwyl iawn i Sale, gan adael i Gaerfaddon gau’r bwlch ar y brig.