Gareth Bale
Fe sgoriodd Gareth Bale chwip o gic rydd dydd Sadwrn wrth i Real Madrid drechu Espanyol o 3-0 – ond ar ôl y gêm roedd y sôn i gyd ynglŷn ag anhapusrwydd ei gyd-chwaraewr.

Mae’n debyg fod Ronaldo wedi digio â Bale ar ôl i’r Cymro beidio â phasio iddo am gyfle i sgorio gôl hawdd, a thorf Madrid yn mynegi eu rhwystredigaeth hefyd.

Ond fe fynnodd rheolwr Real ar ôl y gêm nad ydi Bale yn chwaraewr hunanol, ac mewn gwirionedd pan glywch chi Ronaldo yn cwyno am rywun ddim yn pasio mae’n rhaid cymryd y peth gyda phinsiad o halen!

Yn Uwch Gynghrair Lloegr rhannu’r pwyntiau wnaeth amddiffynwyr Cymru yn y Liberty wrth i Abertawe, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn y tîm, gipio canlyniad cyfartal yn erbyn James Collins a West Ham.

Llwyddodd Crystal Palace i drechu Spurs diolch i help llaw gan Joe Ledley, a enillodd gic o’r smotyn arweiniodd at Palace yn unioni’r sgôr – ond roedd awgrym fod y Cymro wedi mynd lawr yn rhy hawdd mewn gwirionedd.

Dim ond ar y fainc oedd Aaron Ramsey i Arsenal wrth iddo ef ddychwelyd o anaf i linyn y gâr, ond fe ddaeth Andy King ymlaen fel eilydd i Gaerlŷr wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth allweddol yn erbyn Aston Villa.

Daeth Sam Vokes oddi ar y fainc i Burnley hefyd am 17 munud, wrth iddo ef barhau i adennill ei ffitrwydd ar ôl anaf difrifol i’w ben-glin llynedd.

Yn anffodus i Paul Dummett, colli oedd hanes ei dîm ef wrth i Chelsea drechu Newcastle 2-0, a phrynhawn siomedig gafodd James Chester hefyd wrth i West Brom guro Hull 1-0.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth dydd Sul fe sgoriodd Dave Edwards unig gôl y gêm o du allan i’r cwrt cosbi wrth i Wolves drechu Blackburn i godi i wythfed yn y tabl.

Roedd hi’n gyfartal yn y frwydr rhwng dau o ymosodwyr Cymru sydd bellach ddim yn y garfan, wrth iddi orffen yn 1-1 rhwng Craig Davies a Bolton, a Steve Morison a Leeds.

Fe ddathlodd Caerdydd y penderfyniad i ddychwelyd i wisgo crysau glas gyda buddugoliaeth dros Fulham, gyda Declan John yn chwarae’r deg munud olaf.

Sgoriodd Joel Lynch drydedd gôl Huddersfield gyda chic tin dros ben gwych wrth iddyn nhw ennill o 3-1 yn erbyn Watford – gwyliwch y fideo isod o 0:53 ymlaen i’w gweld hi:

Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Simon Church, David Vaughan, Craig Morgan, Chris Gunter a Hal Robson-Kanu.

Ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Joe Walsh, Gwion Edwards, Tom Bradshaw, James Wilson ac Elliott Hewitt, gyda Hewitt yn rhedeg o hanner ei hun a sgorio gôl wych o 20 llathen ym muddugoliaeth Colchester.

Seren yr wythnos – Joel Lynch. Amddiffynnwr canol yn sgorio gôl tin dros ben? Wnewch chi ddim gweld hynny’n aml!

Siom yr wythnos – Ben Davies. Nôl ar y fainc unwaith eto wrth i Danny Rose chwarae fel cefnwr chwith.