Gweilch 22–11 Dreigiau Casnewydd Gwent

Dychwelodd y Gweilch i frig y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dros y Dreigiau ar y Liberty brynhawn Sul.

Cais hanner cyntaf Tyler Ardron oedd yr unig gyffro mewn gêm wirioneddol wael.

Hanner Cyntaf

Y Dreigiau ddechreuodd orau yn y pum munud cyntaf a chiciodd Tom Prydie hwy dri phwynt ar y blaen. Yna, unionodd Dan Biggar y sgôr wedi chwarter awr wrth i’r Gweilch ddod fwyfwy i’r gêm.

Doedd y naill dîm na’r llall yn edrych fel sgorio cais ond deilliodd un i’r Gweilch o gamgymeriad gan y Dreigiau saith munud cyn yr egwyl.

Methodd Jason Tovey a chyrraedd yr ystlys gyda chic gosb ac arweinodd hynny yn y diwedd at gais yn y gornel i’r wythwr cartref, Ardron, 10-3 y sgôr wedi trosiad anodd Biggar.

Cyfnewidiodd Prydie a Biggar gic gosb yr un ym munudau olaf yr hanner, 13-6 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Parhau i nodweddu’r gêm a wnaeth y llanast llwyr yn y sgrymiau yn yr ail hanner a manteisiodd Biggar ar hynny i ymestyn mantais y Gweilch i 19-6 gyda dwy gic gosb cyn yr awr.

Fe gollodd y dyfarnwr, fel pawb arall, amynedd yn fuan wedyn gan roi cerdyn melyn yr un i brop y Dreigiau, Brok Harris, a bachwr y Gweilch, Scott Baldwin.

Creodd hynny fymryn fwy o le ac fe fanteisiodd Richie Rees ar hynny wrth groesi am gais i’r Dreigiau, yr eilydd fewnwr yn cael ei wobrwyo am gyflymu’r gêm ar ôl dod i’r cae.

Ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hynny wrth i’r Gweilch orffen y gêm gyda thri phwynt arall o droed Biggar.

Perfformiad siomedig gan y ddau dîm felly ond buddugoliaeth bwysig iawn i’r Gweilch, un sydd yn eu codi yn ôl i frig tabl y Pro12. Mae’r Dreigiau ar y llaw arall yn aros yn ddegfed.
.
Gweilch
Cais:
Tyler Ardron 33’
Trosiad: Dan Biggar 34’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 14’, 40’, 44’, 58’, 80’
Cerdyn Melyn: Scott Baldwin 65’
.
Dreigiau
Ceisiau:
Richie Rees 71’
Ciciau Cosb: Tom Prydie 5’, 37’
Cerdyn Melyn: Brok Harris 62’