Samson Lee
Prop y Scarlets, Samson Lee yw’r seithfed chwaraewr i arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Lee fod y penderfyniad yn “un hawdd” gan ei fod yn cynnig “y gorau o ddau fyd”.
Roedd Lee yn aelod o garfan dan 20 Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012 ac o garfan ieuenctid Cymru ym Mhencampwriaethau’r Byd yr un flwyddyn.
Enillodd ei gap llawn cyntaf fel eilydd yn erbyn Yr Ariannin flwyddyn yn ddiweddarach a bellach, mae e wedi ennill naw o gapiau dros Gymru.
Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’n fy ngalluogi i ymrwymo i’r Scarlets, lle rwy’n mwynhau fy rygbi a lle rwy’n teimlo’n gartrefol, ond hefyd gobeithio y bydd yn creu amserau cyffrous gyda Chymru.”
Sam Warburton, Dan Lydiate, Tyler Morgan, Hallam Amos, Rhodri Jones a Jake Ball yw’r chwech arall sydd wedi arwyddo cytundeb deuol hyd yn hyn.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae Samson wedi datblygu’n gyflym iawn ac wedi profi ei allu mewn safle lle rydyn ni’n parhau i ddatblygu ein dyfnder.
“Mae ei berfformiadau i’r Scarlets a Chymru wedi dangos ei fod yn dysgu’n gyflym ac yn deall gofynion y rôl a’r disgwyliadau ar ysgwyddau prop pen tynn cyfoes.”