Mae Syr Dave Brailsford am sicrhau mai Team Sky yw’r “tîm seiclo gorau yn y byd heb amheuaeth” erbyn 2020.

Ers i’r tîm gael ei sefydlu yn 2009 dan arweiniad y Cymro, mae Syr Bradley Wiggins a Chris Froome wedi ennill Tour de France dair gwaith rhyngddyn nhw.

Wrth edrych ymlaen at y pum mlynedd nesaf, mae Brailsford yn benderfynol y gall y tîm wella o hyd.

“Mae’r lle rydyn ni am fod yn 2020 yn syml iawn – rydyn ni am i Team Sky fod y tîm seiclo gorau yn y byd heb amheuaeth”.

“Roedd gyda ni weledigaeth gryf ar gyfer ein pum mlynedd gyntaf – roedden ni am ennill Tour de France a chael miliwn o bobol i seiclo. Fe lwyddon ni yn y ddau beth.

“Mewn gwirionedd, fe lwyddon ni ddwywaith gyda Tour de France.

“Roedd yn gyflawniad rhagorol ond dydych chi ddim yn gorffwys ar eich rhwyfau, rydych chi’n edrych yn ôl ac mewn gwirionedd, fe allen ni fod wedi gwneud yn well.

“Rydyn ni wedi cau’r bennod honno – rydyn ni am fod yn well nag yr oedden ni yn ystod y pum mlynedd gyntaf ac rydyn ni’n fwy awchus nag erioed.”