Mae disgwyl i’r prop rhyngwladol Gethin Jenkins chwarae gêm rhif 150 i’r Gleision b’nawn yfory yn erbyn Leinster ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.
Fe chwaraeodd y blaenwr ei gêm gynta’ yng nghrys y rhanbarth yn erbyn Leinster yn 2004, ac fe fydd yn gapten ar y tîm yfory.
Fe gafodd Jenkins gyfnod yn Ffrainc gyda Toulon cyn dychwelyd i’r brifddinas.
Leinster yw pencampwyr y gynghrair ac mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision yn disgwyl her a hanner.
“Leinster yw’r ffon fesur i sawl clwb yn Ewrop a byddan nhw’n dod i Gaerdydd gyda charfan dalentog yn llawn hyder,” meddai Mark Hammett.
“Bydd gofyn i’n gwaith yn ardal y dacl fod fymryn yn well ac mae’n rhaid i ni weithio yn galed wrth ymosod ac amddiffyn os ydym am sicrhau canlyniad o bwys.”