Yr Wyddfa
Mae ras 20 milltir o Gaernarfon i Lanberis ac i fyny’r Wyddfa, sydd wedi cael ei disgrifio fel un o’r rasys anoddaf sy’n bodoli,  yn dychwelyd i Eryri eleni.

Mae ras Man vs Mountain yn gofyn i tua 800 o gystadleuwyr redeg o gastell Caernarfon tuag at bentref Llanberis, lle byddan nhw’n gorfod rhedeg i fyny ac i lawr Yr Wyddfa.

Yna bydd rhaid iddyn nhw abseilio i lawr ochr craig ger Chwarel Dinorwig a nofio ar draws afon ger Llyn Peris. Mae cwrs o rwystrau wedyn lle bydd y cystadleuwyr yn gorfod dringo dros waliau.

Meddai llefarydd ar ran y cwmni sy’n trefnu’r ras, Rat Race: “Mae’r ras hon yn eich gosod wyneb yn wyneb â natur ar ei orau. Byddwch yn gorfod goroesi’r tywydd, llwybrau serth a’r sialens feddyliol o redeg  20 milltir dros fynydd uchaf Cymru.

“Mae’n frwydr yn erbyn y tir, gydag ychydig o rwystrau ychwanegol wedi eu taflu i mewn…nid yw’n ras i’r gwan.”

Mi fydd Man vs Mountain yn cael ei chynnal ar 9 Medi 2015.