Bydd prop y Gleision, Sam Hobbs yn ymddangos am y canfed tro i’r rhanbarth pan fyddan nhw’n herio’r Dreigiau ar Barc yr Arfau BT Sport ar Ddydd San Steffan.

Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Mark Hammett wedi gwneud chwech newid i’r tîm a gurodd y Sgarlets, wrth i Matthew Rees ddychwelyd i fod yn gapten.

Mae Jarrad Hoeata yn holliach ac yn cymryd ei le yn yr ail reng, tra bod Ellis Jenkins yn dod i mewn yn lle Sam Warburton, sydd wedi anafu.

Gareth Davies a Lewis Jones fydd yr haneri, ac mae Gavin Evans yn dychwelyd i safle’r canolwr.

Dywedodd Mark Hammett fod “cyfrifoldeb” ar y chwaraewyr i ennill y gemau dros gyfnod y Nadolig.