Mae Abertawe’n croesawu Aston Villa i’r Liberty ar Ddydd San Steffan, gan obeithio dechrau cyfnod prysur y Nadolig gyda thri phwynt gwerthfawr.
Byddai dwy fuddugoliaeth o’r bron yn atgyfnerthu eu lle yn hanner uchaf y tabl, yn dilyn eu buddugoliaeth o 1-0 oddi cartref yn Hull yr wythnos diwethaf.
Mae’r ymwelwyr yn y deuddegfed safle yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.
Bydd Leon Britton, Gylfi Sigurdsson a Jefferson Montero ar gael i’r Elyrch yn dilyn anafiadau, ac fe allai Wilfried Bony ddychwelyd i’r tîm yn lle Bafetimbi Gomis.
Mae ymosodwr Aston Villa, Gabby Agbonlahor ar gael i’r ymwelwyr wedi i’r Gymdeithas Bêl-Droed ddiddymu’r garden goch a gafodd yn erbyn Man U.
Hwn oedd y tro cyntaf erioed i Agbonlahor gael ei anfon o’r cae.
Mae Alan Hutton a Tom Cleverley ar gael unwaith eto yn dilyn gwaharddiadau.
Mae Kieran Richardson wedi’i wahardd o hyd, ac mae Ashley Westwood, Philippe Senderos, Nathan Baker, Libor Kozak a Joe Cole wedi anafu o hyd.