Angel Rangel
Mae amddiffynnwr de Abertawe, Angel Rangel wedi galw ar ei dîm i sicrhau’r pwyntiau yn eu gemau dros gyfnod y Nadolig.
Roedd yr Elyrch yn fuddugol o 1-0 oddi cartref yn Hull yr wythnos diwethaf, y tro cyntaf iddyn nhw ennill oddi cartref ers diwrnod cynta’r tymor.
Byddan nhw’n herio Aston Villa yn Stadiwm Liberty ar Ddydd San Steffan cyn teithio i Lerpwl dridiau’n ddiweddarach, ac i QPR ar Ddydd Calan.
Dywedodd Angel Rangel: “Ar ôl colli ddwywaith, y peth pwysicaf ac eithrio’r canlyniad oedd y perfformiad.
“Fe wnaethon ni greu llawer o gyfleoedd, wedi cyfyngu Hull i ychydig iawn o gyfleoedd ac fe allen ni fod wedi mynd ymlaen i ennill o fwy [o goliau].
“Ond roedd y cymeriad wnaethon ni ei ddangos yn dangos yr ysbryd sydd gennym yn y tîm.
“Roedden ni’n gwybod beth oedd i ddod yn erbyn Hull ac fe enillon ni dipyn o ail beli.
“Weithiau, fe allwch chi golli canolbwyntio neu ildio gôl, ond fe wnaethon ni gadw ein pwyll tan y funud olaf ac roedd dyhead pawb yn wych.
“Gwnaethon ni saith o newidiadau ond gwnaeth pawb berfformio – ac mae angen hynny adeg yma’r tymor.
“Mae angen i ni gymryd y canlyniad hwn ymlaen i mewn i’r gêm yn erbyn Aston Villa ar Ddydd San Steffan gan fod gyda ni gyfle gwych i gael dwy fuddugoliaeth o’r bron ac atgyfnerthu ein lle yn hanner ucha’r tabl.”