Mae’r Gweilch wedi arwyddo chwaraewr ail-reng Ffiji, Tevita Cavubati tan ddiwedd y tymor.

Mae disgwyl i Cavubati, 27, lenwi’r bwlch sydd wedi cael ei greu gan anafiadau i Lloyd Peers a De Kock Steenkamp.

Ar hyn o bryd, Alun Wyn Jones a Rynier Bernardo yw’r unig ddau sydd ar gael i chwarae yn y safle.

Gwnaeth Cavubati argraff fawr yn ystod gêm Ffiji yn erbyn Cymru fis diwethaf.

Dywedodd Tevita Cavubati: “Mae hwn yn gyfle gwych i fi ac rwy’n gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen.

“Wedi chwarae yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod gemau rhyngwladol yr hydref, rwy’n gwybod beth yw ansawdd chwaraewyr y Gweilch a bod cefnogwyr o Gymru’n cefnogi eu tîm.

“Mae hwn yn gyfnod prysur yn y PRO12 felly gobeithio y bydda i’n setlo’n gyflym ac yn gallu chwarae rhan yn y tîm.”

Mae Cavubati yn arbennig o gryf yn ardal y dacl, ac mae ganddo’r ddawn i gario’r bêl.

Chwaraeodd ei dad, ‘Big Bill’ Cavubati i’w wlad 27 o weithiau rhwng 1995 a 2005.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Gweilch, Andrew Millward: “Mae’n wych ein bod ni’n gallu croesawu Tevita i’r rhanbarth ar ddechrau cyfnod prysur gyda nifer o gemau pwysig i ddod.

“Bydd Tevita yn dod â phrofiad gydag e ac mae e’n gorfforol….”