Justin Tipuric
Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi fod y blaenasgellwr rhyngwladol Justin Tipuric wedi arwyddo cytundeb sy’n sicrhau ei ddyfodol gyda’r rhanbarth tan 2018.

Croesawyd y newyddion gan y Gweilch fel datganiad o fwriad, yn dilyn adroddiadau yn cysylltu Tipuric, sy’n 25 oed, gyda chlybiau mawr yn Lloegr a Ffrainc.

Wrth arwyddo’r cytundeb newydd, dywedodd y blaenasgellwr: “Rwy’n hynod o hapus fod y mater  wedi’i sortio er mwyn imi ganolbwyntio ar fy rygbi.

“Dwi’n fachgen lleol ac yn teimlo’n freintiedig i allu chwarae i fy nhȋm lleol am dair blynedd arall.”

Hyd yma, mae Tipuric wedi chwarae 93 o weithiau i’r Gweilch gan ennill 27 o gapiau i Gymru. Roedd yn aelod o garfan y Llewod a fu’n fuddugol yn Awstralia yn 2013 pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn y trydydd prawf.

Mae Andrew Millward, Rheolwr Rygbi’r Gweilch wedi croesawu’r newyddion: “Does gen i ddim amheuaeth fod y newyddion yma yn hwb mawr i’r clwb ac yn rhywbeth i’w groesawu yn fawr gan y cefnogwyr, y chwaraewyr a’r staff.”

Ychwanegodd, “Mae gan y Gweilch ddyfodol disglair, ac rydym yn creu amodau lle mae’r chwaraewyr eisiau bod yn rhan ohono. Mae’r gwaith caled ar y cae ac oddi arno, wedi sicrhau ein bod ar flaen y gad yng Nghymru ac yn parhau i herio ar y lefel uchaf dros y tymhorau nesaf.”