Dreigiau Casnewydd Gwent 25–11 Zebre

Cododd y Dreigiau dros Zebre yn nhabl y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dros yr Eidalwyr ar Rodney Parade nos Sul.

Manteisiodd y tîm cartref ar gyfnod o saith munud ar ddechrau’r ail hanner pan yr oedd Zebre lawr i dri dyn ar ddeg, gan sgorio dau gais i sicrhau’r fuddugoliaeth yn y cyfnod hwnnw.

Hanner Cyntaf

Cyfartal oedd hi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i Tom Prydie a Kelly Haimona gyfnewid cic gosb yr un yn y chwarter agoriadol.

Daeth cais wedyn i’r canolwr, Ross Wardle, yn dilyn bylchiad gwreiddiol Prydie ac roedd y Dreigiau saith pwynt ar y blaen yn dilyn trosiad y cefnwr.

Caeodd Haimona’r bwlch i bedwar gyda’i ail gic ef ond gorffennodd yr hanner gyda cherdyn melyn i Mauro Bergamasco am drosedd yn ardal y dacl a chic gosb arall i Prydie, 13-6 y sgôr ar yr egwyl.

Ail Hanner

Ymunodd yrr asgellwr, Leonardo Sarto, â Bergamasco yn y gell gallio wedi tri munud o’r ail hanner yn dilyn tacl flêr ar Brock Harris.

A gyda’r Eidalwyr i lawr i dri dyn ar ddeg fe fanteisiodd y Dreigiau gan sgorio dau gais mewn pedwar munud.

Llithrodd Hallam Amos drosodd yn y gornel chwith i ddechrau cyn i’r clo, Rynard Landman, groesi am y trydydd wedi i’r Dreigiau ddwyn pêl yn lein Zebre.

Gyda’r Eidalwyr yn ôl i bedwar dyn ar ddeg ar y cae fe dynnodd Andrea Manici gais yn ôl i’r ymwelwyr, y bachwr yn torri rhydd o gefn sgarmes symudol i sgorio.

Roedd dros chwarter y gêm ar ôl ond methodd Zebre a tharo yn ôl ym mhellach a methodd y Dreigiau a sgorio pedwerydd cais ar gyfer pwynt bonws.

25-11 y sgôr terfynol felly, canlyniad sydd yn codi’r Dreigiau dros Zebre i’r degfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Dreigiau
Ceisiau:
Ross Wardle 23’, Hallam Amos 45’, Rynard Landman 49’
Trosiadau: Tom Prydie 24’, 51
Ciciau Cosb: Tom Prydie 5’, 40’
.
Zebre
Cais:
Andrea Manici 53’
Ciciau Cosb: Kelly Haimona 19’, 29’
Cardiau Melyn: Mauro Bergamasco 40’, Leonardo Sarto 43’