Rhys Priestland
Mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac wedi cadarnhau bod y rhanbarth wedi cynnig cytundebau newydd i Rhys Priestland, Jake Ball a Liam Williams – ond mae peryg y gallen nhw adael y rhanbarth.

Daeth y cyhoeddiad am y cytundebau yn sgil adroddiadau fod clwb Bath am geisio arwyddo Priestland yn faswr newydd ar gyfer y tymor nesa’.

Roedd sôn hefyd bod clybiau eraill yn Lloegr, gan gynnwys Northampton a Leicester Tigers, yn awyddus i geisio arwyddo’r clo Jake Ball a’r asgellwr Liam Williams.

Cytundeb deuol?

Yn ddiweddar fe gynigiodd Undeb Rygbi Cymru gytundebau deuol i ddeuddeg o chwaraewyr Cymru, er na wnaethon nhw enwi’r dwsin a does dim gwybodaeth a yw’r tri Scarlet yn eu plith.

Doedd Wayne Pivac ddim yn fodlon cadarnhau ai cytundebau deuol gyda’r Undeb neu gytundebau gyda’r Scarlets yn unig oedd ar y bwrdd i Priestland, Ball a Williams.

Hyd yn hyn y blaenasgellwr Dan Lydiate yw’r unig un sydd wedi arwyddo’r cytundeb deuol gafodd ei gynnig yn ystod yr hydref, ond mae disgwyl i ragor wneud yn fuan.

‘Eisiau eu cadw’

“Pobl eraill sydd yn gwneud y penderfyniadau hynny ond fe fyddwn ni’n eu cefnogi naill ffordd,” meddai’r Wayne Pivac.

“Rydyn ni eisiau eu cadw nhw. Mae’r trafodaethau yna’n mynd ymlaen ar hyn o bryd. Allai ddim dweud mwy ar hyn o bryd.”

Mae’r Scarlets yn herio’r Gleision heno ar Barc yr Arfau BT Sport, y cyntaf o’r darbis Cymreig rhwng y rhanbarthau dros gyfnod y Nadolig.