Mae Morgannwg wedi penodi’r batiwr o Dde Affrica, Jacques Rudolph yn gapten ym mhob fformat ar gyfer tymor 2015.
Mae’n disodli’r wicedwr Mark Wallace a Jim Allenby, oedd wedi rhannu’r cyfrifoldeb y tymor diwethaf.
Enillodd Rudolph wobr Chwaraewr Rhestr A y tymor ar gyfer 2014, wedi iddo sgorio 2,000 o rediadau ym mhob cystadleuaeth.
Rudolph oedd ar frig prif sgorwyr Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, gan sgorio 575 o rediadau ar gyfartaledd o 82.14.
Torrodd y record Rhestr A am y cyfanswm unigol erioed mewn gêm Rhestr A – 169 heb fod allan yn erbyn Swydd Sussex – gan guro record Viv Richards.
Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod Rudolph “yn arweinydd ar y cae ac oddi arno”.
Mae Rudolph wedi cael ychydig o brofiad o arwain timau yn y gorffennol, gan gynnwys cyfnodau wrth y llyw gyda’r Titans yn Ne Affrica, tîm cenedlaethol De Affrica A, a Swydd Efrog.
Am gyfraniad Mark Wallace, dywedodd Hugh Morris: “Mae Mark Wallace wedi gwneud jobyn go dda fel Capten y Clwb yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan ddangos ymroddiad ac ymrwymiad rhagorol i’r rôl ac fe fydd yn parhau i fod yn lais gwerthfawr a phrofiadol yn yr ystafell newid ac ar y cae fel arweinydd.
‘Braint ac anrhydedd’
Dywedodd Jacques Rudolph ei bod yn “fraint ac yn anrhydedd” i gael ei benodi’n gapten.
“Fe wnes i fwynhau fy nhymor cyntaf yng Nghymru, ond mae’r flwyddyn nesaf yn her newydd ac yn dilyn nifer o newidiadau, rwy wir yn edrych ymlaen at yr amserau cyffrous sydd o’n blaenau.”
Ychwanegodd ei fod yn awyddus i wella perfformiad y sir yn y Bencampwriaeth.
“Rwy wir yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Forgannwg i greu tîm buddugol y gall Cymru fod yn falch ohono.”