Parc yr Arfau
Ni fydd Liam Williams ar gael i’r Scarlets oherwydd anaf i’w bigwrn wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Gleision yn y ddarbi Gymreig gyntaf dros gyfnod y Nadolig.
Mae Bois y Sosban wedi gwneud pedwar newid i’r tîm enillodd yn erbyn Ulster y penwythnos diwethaf ar gyfer y gêm ym Mharc yr Arfau BT Sport nos Wener am 7.35yh.
Pum newid sydd yn nhîm y Gleision hefyd, gyda’r clo Lou Reed yn dychwelyd i herio ei gyn-glwb.
Newidiadau
Y cefnwr ifanc Steffan Evans sydd yn camu mewn i dîm y Scarlets yn absenoldeb Liam Williams, ac mae Harry Robinson hefyd yn dychwelyd i’r asgell.
Bydd Aled Davies yn hawlio’r crys rhif naw yn ôl, tra bod Jake Ball wedi gwella o salwch i ail-gymryd ei le yn yr ail reng.
Yn ogystal â Reed fe fydd yr Archentwyr Lucas Amorosino a Joaquin Tuculet, y mewnwr Lewis Jones a’r bachwr Kristian Dacey i gyd yn dychwelyd i dîm y Gleision.
Darbi’r Dolig
Dyma’r tro cyntaf y bydd hyfforddwyr y ddau dîm yn profi gêm rhwng y Scarlets a’r Gleision, ac mae’r ddau yn edrych ymlaen at y ddarbi Gymreig.
“Mae pob gwrthwynebydd newydd yn brofiad newydd i mi yma, a fi’n mwynhau e,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac.
“Ar bapur maen nhw’n dîm da iawn, a fi ddim yn meddwl eu bod nhw wedi dangos eu gorau eto ar y cae.
“Bydd rhaid i ni gadw’n ffocws a’n disgyblaeth. Bydd rhaid bod ar dop ein gêm.”
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Mark Hammett ei fod wedi clywed tipyn am dorfeydd brwdfrydig Cymru yn ystod y darbis Nadolig.
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y gêm a’r frwydr rhwng ‘Dwyrain a Gorllewin’,” meddai Hammett.
“Bydd e’n brofiad newydd i mi a’r tro cyntaf i mi gael blas o ddarbi Gymreig dros yr ŵyl. Fi wedi clywed am y torfeydd mawr a’r awyrgylch gwych sydd yn y gemau yma. Mae angen i ni wneud yn fawr o hynny.”
Tîm y Gleision: Joaquin Tuculet, Alex Cuthbert, Cory Allen, Adam Thomas, Lucas Amorosino, Gareth Anscombe, Lewis Jones; Gethin Jenkins (capt), Kristian Dacey, Adam Jones, Filo Paulo, Lou Reed, Josh Turnbull, Sam Warburton, Josh Navidi
Eilyddion y Gleision: Matthew Rees, Sam Hobbs, Taufa’ao Filise, Macauley Cook, Manoa Vosawai, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Tom Isaacs
Tîm y Scarlets: Steffan Evans, Harry Robinson, Regan King, Scott Williams (capt), Michael Tagicakibau, Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, Rob McCusker
Eilyddion y Scarlets: Kirby Myhill, Wyn Jones, Rhodri Jones, Lewis Rawlins, Will Boyde, Rhodri Williams, Steven Shingler, Hadleigh Parkes