Stadiwm Swalec
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi argymell wrth y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) y dylai Stadiwm Swalec gynnal nifer o gemau rhyngwladol rhwng 2015 a 2019.

Mae’r argymhelliad yn cynnwys cynnal gemau yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yn 2017 a Chwpan y Byd yn 2019, yn ogystal â nifer o gemau undydd eraill yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Fe fydd Stadiwm Swalec yn cynnal y gêm brawf gyntaf yng Nghyfres y Lludw y tymor nesaf.

Mae’r argymhelliad yn ddibynnol ar sêl bendith y Cyngor Criced Rhyngwladol.

Dywedodd prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Rydym wrth ein bodd o groesawu chwaraewyr gorau’r byd i brifddinas Cymru gyda’r dosbarthiad hwn o gemau o 2017 i 2019.

“Trwy gynnal digwyddiadau byd-eang mawr fel Tlws Pencampwyr yr ICC a Chwpan y Byd, bydd llygaid y byd ar Gaerdydd.

“Ymhellach, fe fydd goreuon Lloegr yn wynebu rhai o’r chwaraewyr mwyaf cyffrous yn y byd yn ffurf fyrraf y gêm wrth i ni gynnal gemau rhyngwladol T20 yn erbyn De Affrica, India a Phacistan o flwyddyn i flwyddyn, ac Awstralia’n dychwelyd i herio Lloegr mewn gêm undydd yng Nghaerdydd.

“Mae tîm Stadiwm Swalec wedi profi’u hunain wrth gyflwyno digwyddiadau mawr ac mae’r rhestr hon o gemau’n adeiladu ar ein record ac yn rhoi criced rhyngwladol o’r radd flaenaf i’r cyhoedd yng Nghymru bob blwyddyn.”

Y gemau’n llawn:

2015
Gorffennaf 8-12 – Lloegr v Awstralia, Cyfres y Lludw
Awst 31 – Lloegr v Awstralia, T20

2016
Lloegr v Pacistan, 50 pelawd
Lloegr v Sri Lanca, 50 pelawd

2017
Lloegr v De Affrica, T20
Tlws Pencampwyr yr ICC

2018
Lloegr v Awstralia, 50 pelawd
Lloegr v India, T20

2019
Lloegr v Pacistan, T20
Cwpan y Byd yr ICC