Chris Venables Llun: Uwch Gynghrair Cymru
Mae un Cymro wedi cael cystal tymor i’w glwb eleni fel ei fod e ben ag ysgwyddau yn well nag unrhyw un yn Ewrop oni bai am Cristiano Ronaldo.

Na, nid sôn ydyn ni am Gareth Bale, cyd-chwaraewr Ronaldo yng nghrys gwyn enwog Real Madrid.

Yn hytrach, chwaraewr canol cae Aberystwyth, Chris Venables, sydd wedi bod yn serennu o flaen y gôl eleni.

Mae gan Venables eisoes 21 gôl mewn 17 gêm gynghrair y tymor hwn, cyfradd o 1.24 gôl y gêm, sydd wedi tanio ei dîm i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru.

Dim ond chwe chwaraewr drwy Ewrop sydd wedi sgorio mwy o goliau na’r nifer o gemau y maen nhw wedi chwarae’r tymor hwn.

Ac o’r rheiny, Ronaldo yw’r unig un sydd â chyfradd well na Venables – mae gan y dewin o Bortiwgal 25 gôl mewn 15 gêm, neu 1.67 gôl y gêm, i Real Madrid.

Sylw gan UEFA

Dyw camp Venables ddim wedi osgoi sylw UEFA, yr awdurdod sydd yn gyfrifol am bêl-droed yn Ewrop, a roddodd sylw blaenllaw i gamp y Cymro ar flaen eu gwefan yn ddiweddar.

Roedd Venables eisoes wedi cael tymor disglair y llynedd gan sgorio 24 o weithiau dros Aberystwyth yn y gynghrair, mwy nag unrhyw chwaraewr arall.

Ac fe ddywedodd y chwaraewr 30 oed y byddai’n rhaid iddo ystyried yn ofalus petai clwb mwy o Loegr yn ceisio ei arwyddo.

“Petai’r cyfle yn codi a bod yr amgylchiadau yn iawn, fe fydden i wrth fy modd yn mynd llawn-amser,” meddai Venables wrth wefan UEFA.

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’n mwynhau bywyd ar Goedlan y Parc o dan reolwr Aberystwyth Ian Hughes.

“Mae e wedi gweithio mas pa fath o siâp sydd yn gweithio orau i ni fel tîm ac i mi yn bersonol,” meddai Venables, sydd bellach yn chwaraewr canol cae ymosodol.

“Dyma un o’r timau mwyaf ymosodol fi erioed wedi chwarae ynddi.”