Mae Jazz Carlin wedi ennill gwobr Athletwraig y Flwyddyn 2014 Nofio Prydain, ar ôl blwyddyn lwyddiannus tu hwnt i’r Gymraes.
Llwyddodd y nofwraig 24 oed i ennill medal aur yn y ras 800m dull rhydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow eleni, y ddynes gyntaf o Gymru i wneud hynny mewn 40 mlynedd.
Cipiodd Carlin fedal arian hefyd yn y ras 400m dull rhydd, cyn ennill medal arian yn yr 800m dull rhydd ym Mhencampwriaethau Cwrs Byr y Byd yn Doha.
Roedd hynny’n ddigon i’w gweld hi’n cael lle ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2014 BBC Cymru.
A nawr mae’r Gymraes wedi dod i’r brig gyda 78% o’r bleidlais i gipio teitl nofwraig y flwyddyn Prydain.
“Mae’n fraint cael fy newis fel Athletwr y Flwyddyn Nofio Prydain,” meddai Jazz Carlin. “Diolch i bawb bleidleisiodd drosta’ i.
“Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn wych, ond fi’n gweithio’n galed ar gyfer 2015 ac wedi targedu lle yn y tîm Olympaidd [ar gyfer 2016].”