Jonathan Williams
Ar ddiwedd blwyddyn arall o gyffro yn y byd chwaraeon, mae Golwg wedi bod yn holi pum cwestiwn cyflym i rai o sêr adnabyddus Cymru ym myd y campau.

Un o’r rhai fu’n sgwrsio â ni oedd Jonathan Williams, pêl-droediwr Crystal Palace a Chymru a dreuliodd gyfnod ar fenthyg yn Ipswich eleni.

Dyma beth oedd gan Joniesta i’w ddweud am ei flwyddyn – gallwch ddarllen cwestiynau cyflym gyda rhai o sêr chwaraeon eraill Cymru yn rhifyn Nadolig Golwg.

Beth oedd eich uchafbwynt personol chi eleni?

Sgorio yn fy ngêm gyntaf i Ipswich, mae’n siŵr. Ro’n i newydd arwyddo’r diwrnod cynt, fe ddes i ‘mlaen ac roeddwn i wedi sgorio o fewn pedair munud!

Roedd hwnna’n sbesial, ac roedd Dad wedi dod lawr i wylio yn y dorf hefyd.

Ond roedd e hefyd yn grêt chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd [gyda Chymru], chwarae yn erbyn pobl fel Robben, Van Persie, Sneijder, gan eu bod nhw ar y ffordd i Gwpan y Byd.

Beth oedd eich her fwyaf eleni?

Mae’n siŵr mai cadw’n ffit oedd fy her fwyaf i eleni, a bod yn onest, jyst trio cael y rhediad yna o gemau at ei gilydd.

Fi ddim wastad yn gallu rheoli beth sy’n digwydd ar y cae pan mae’n dod at hynny – mae’n siŵr mai cadw’n ffit fydd yr her fwyaf flwyddyn nesaf hefyd!

Beth oedd eich hoff foment chwaraeon yn 2014 heblaw am bêl-droed?

Wel, roedd Cwpan Ryder yn eitha’ sbesial, nes i wylio hwnna – mae’n siŵr mai dyna’r unig adeg fi’n gwylio golff a bod yn onest!

Mae gen i fêt da sydd yn hoffi gwylio golff, felly dyna sut nes i ddechrau gwneud mae’n siŵr.

Beth yw eich cynlluniau chi dros y Nadolig – amser gyda’r teulu, neu allan yn ymarfer?

‘Chydig o’r ddau. Dyma’r job gorau yn y byd i fi, fydden ni ddim yn cyfnewid bod yn bêl-droediwr er mwyn gallu bod gartref dros Nadolig!

Fi’n gobeithio byddai’n ymarfer eto erbyn hynna, felly ymarfer ar ddydd Nadolig ac wedyn diwrnod San Steffan.

Ond ar ôl ymarfer fi’n meddwl bod y teulu i gyd yn dod draw i dŷ mam, mae hynna wastad yn neis.

Beth yw dy uchelgais ar gyfer 2015?

Cael mewn i dîm Crystal Palace ac aros yna, mae e wedi bod yn anodd cael mewn ers i ni gael dyrchafiad [yn 2013].

Fi wedi bod yn dod ‘mlaen fel eilydd ond heb ddechrau yn yr Uwch Gynghrair eto, felly bydde fe’n eitha’ sbesial cael rhywfaint o gemau iddyn nhw flwyddyn nesaf.

Hefyd parhau â’r rhediad da gyda thîm cenedlaethol Cymru, byddai’n dda os allwn ni aros rownd y ddau safle uchaf yna [yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016].

Bydd rhagor o gwestiynau cyflym gyda sêr Cymru o fyd rygbi, ralio a Gemau’r Gymanwlad yn rhifyn Nadolig Golwg dydd Iau.