Warren Gatland
Fe fydd Cymru yn chwarae Iwerddon a’r Eidal mewn gemau cyfeillgar wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi 2015.

Bydd tîm Warren Gatland yn herio’r Gwyddelod ddwywaith, gyda’r gêm gyntaf yng Nghaerdydd ar 8 Awst a’r ail yn Nulyn ar 29 Awst.

Yna fe fyddan nhw’n herio’r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm ar 5 Medi, cyn dechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd ar 20 Medi yn erbyn Wrwgwai.

Grŵp heriol

Fe fydd Cymru yn wynebu grŵp heriol yng Nghwpan Y Byd y flwyddyn nesaf – ar ôl chwarae Wrwgwai fe fydd yn rhaid iddyn nhw wynebu Awstralia, Lloegr a Fiji.

Mae’r twrnament yn cael ei chynnal gan Loegr, ond fe fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Wrwgwai a Fiji yn Stadiwm y Mileniwm.

Bydd y garfan hefyd yn teithio i’r Swistir, Qatar a Gwlad Pwyl i ymarfer fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Cwpan Y Byd.

Ac fe fydd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn gobeithio efelychu llwyddiant 2011, pan ddaeth Cymru o fewn trwch blewyn i gyrraedd y ffeinal.

“Roedden ni’n hapus iawn â chanlyniadau ein paratoadau yn 2011 ac mae’r amserlen hwn nid yn unig yn defnyddio beth ddysgon ni bryd hynny, ond yn adeiladu ar hynny,” meddai Gatland.