Mae Pro Rugby Wales wedi cadarnhau y bydd cynrychiolydd o glybiau Uwch Gynghrair Principality Cymru yn eistedd ar eu Bwrdd nhw o fis Ionawr 2015 ymlaen.

PRW yw’r corff sydd yn gyfrifol am rygbi rhanbarthol yng Nghymru, ac fe newidiodd ei enw o Regional Rugby Wales (RRW) yn gynharach eleni.

Cynrychiolydd clybiau’r Uwch Gynghrair ar y bwrdd fydd Chris Clarke, cadeirydd Clwb Rygbi Cross Keys.

Cysylltiadau agosach

Wrth gadarnhau ei rôl newydd heddiw, fe ddywedodd Chris Clarke fod y pedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru, a deuddeg clwb yr Uwch Gynghrair, yn awyddus i ddatblygu perthynas agosach â’i gilydd.

“Roedd clybiau’r Uwch Gynghrair yn unfrydol wrth gefnogi cysylltiadau agosach â Pro Rugby Wales, ac yn teimlo bod y cyfle hwn yn cydnabod y cyfraniad mae’r Uwch Gynghrair yn ei wneud i ddatblygiad chwaraewyr rygbi proffesiynol y gorffennol, presennol a’r dyfodol,” meddai Chris Clarke.

Mae llawer o chwaraewyr ifanc y rhanbarthau hefyd yn chwarae dros glybiau yn yr Uwch Gynghrair, ac fe ddywedodd prif weithredwr PRW, Mark Davies, ei fod am weld hynny yn parhau.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth yn bellach wrth gynnwys eu llais nhw yn ffurfiol ar Fwrdd Pro Rugby Wales,” meddai Mark Davies.

Aelodau presennol Bwrdd Pro Rugby Wales yw: Robin Cammish (Cadeirydd), Mark Davies (Prif Weithredwr), Alan Whiteley (Cyfarwyddwr Annibynnol), Nigel Short (Cadeirydd y Scarlets), Jon Daniels (Prif Swyddog Gweithredol y Scarlets), Andrew Hore (Prif Weithredwr y Gweilch), Roger Blyth (Cadeirydd y Gweilch), Martyn Hazell (Cadeirydd y Dreigiau), Peter Thomas (Cadeirydd y Gleision), Richard Holland (Prif Weithredwr y Gleision), Chris Clarke (clybiau Uwch Gynghrair y Principality yng Nghymru)