Sam Vokes
Mae disgwyl i Sam Vokes chwarae dros dîm ieuenctid Burnley unwaith eto heddiw wrth iddo barhau i wella o anaf difrifol i’w ben-glin.

Dyw’r ymosodwr heb chwarae dros ei glwb ers mis Mawrth, ar ôl anafu cymalau ei ben-glin yn wael yn ystod gêm yn erbyn Caerlŷr.

Ond mae’r Cymro eisoes wedi creu argraff ers dod nôl i chwarae gyda’r tîm dan-21, ac mae rheolwr Burnley Sean Dyche yn gobeithio ei weld nôl gyda’r tîm cyntaf yn fuan.

Tair gôl yn barod

Vokes oedd un o chwaraewyr gorau Burnley y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Fe sgoriodd 20 o weithiau mewn 39 gêm gynghrair cyn ei anaf, ac mae’n debygol y byddai wedi bod yn ddewis cyntaf yn yr ymosod i Gymru hefyd ar gyfer eu hymgyrch Ewro 2016 a ddechreuodd eleni.

Mae disgwyl iddo chwarae 90 munud i’r tîm dan-21 eto heddiw yn erbyn Crewe wrth iddo geisio adennill ei ffitrwydd.

Mae eisoes wedi chwarae tair gêm dros y tîm ieuenctid, gan sgorio tair gôl yn ei 205 munud ar y cae.

A dyw’r chwaraewr 25 oed ddim yn bell o fod yn barod i chwarae dros y tîm cyntaf unwaith eto, yn ôl ei reolwr.

“Bydd Sam yn chwarae eto wythnos yma,” meddai Sean Dyche. “Amser ar y cae sydd angen ar Vokesy nawr, mae o wedi gwneud yr holl ymarfer y gallai o wneud.

“Mae angen mwy o funudau ar y cae arno er mwyn teimlo’n iawn unwaith eto. Pan ‘da ni’n hapus efo hynny mi fydd ’na gyfle i’w chwarae o yn y tîm cyntaf.”