Frankie Jones Llun: Steve Pope Photography
Mae tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi penodi Frankie Jones fel Ymgynghorydd Athletau wrth iddyn nhw ddechrau cynllunio am y gemau nesaf yn 2018.
Bydd y cyn-gymnastwraig yn rhan o Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru, sydd yn gyfrifol am baratoi’r tîm ar gyfer Gemau’r Gold Coast yn Awstralia ymhen pedair blynedd.
Frankie Jones oedd athletwraig fwyaf llwyddiannus Cymru yng ngemau Glasgow eleni, gan gipio pum medal arian ac un fedal aur yn y cystadlaethau gymnasteg rythmig.
Edrych i’r dyfodol
Yn dilyn ei llwyddiant yn y Gemau eleni fe enillodd Frankie Jones Wobr David Dixon, ac wythnos diwethaf fe ddaeth yn ail yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Llwyddodd Tîm Cymru i gipio 36 medal yng Nglasgow, eu cyfanswm mwyaf erioed, ac roedd llawer o’r diolch hwnnw i’r tîm gymnasteg rythmig oedd hefyd yn cynnwys Laura Halford a Georgie Hockenhull.
Bydd rôl newydd Frankie Jones ar fwrdd y Gemau yn cynnwys rhoi cyngor ar sut i sicrhau bod athletwyr Cymru yn llwyddo ymhen pedair blynedd.
“Mae’n fraint fawr cael fy mhenodi fel Ymgynghorydd Athletau i Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru,” meddai Frankie Jones.
“Yn ystod fy ngyrfa gystadleuol dwi wedi cael y fraint o gynrychioli Cymru mewn tri o’r Gemau ac o waelod calon fe allai ddweud mai rheiny yw’r cystadlaethau ble mae gen i’r atgofion gorau yn ystod fy 18 mlynedd o gymryd rhan mewn gymnasteg.
“Bydd bod yn Ymgynghorydd Athletau yn golygu mod i’n gallu parhau i ysbrydoli athletwyr ieuengach i ddilyn yn fy ôl troed i, dod dros yr heriau ac ennill i Gymru.”