Connacht 14–8 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Connacht ar Faes Chware Galway nos Sadwrn, er iddynt ddechrau ar dân yn y gêm Guinness Pro12.

Roedd Bois y Sosban wyth pwynt ar y blaen wedi dim ond tri munud yn dilyn cais cynnar Harry Robinson a chic gosb Steve Shingler.

Caeodd Jack Carty y bwlch i bump gyda chic gosb cyn yr egwyl cyn ei gau ym mhellach gydag un arall yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Rhoddodd cais cyntaf Connacht y tîm cartref ar y blaen yn fuan wedyn, yr asgellwr, Matt Healy, yn croesi.

Rhoddodd trydedd cic gosb Carty ychydig o awyr iach rhwng y ddau dîm toc wedi’r awr ac felly yr arhosodd pethau tan y diwedd, 14-8 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi Connacht dros y Scarlets yn nhabl y Pro12, wrth i Fois y Sosban ddisgyn i’r seithfed safle.

.

Connacht

Cais: Matt Healy 48’

Ciciau Cosb: Jack Carty 19’, 47’, 63’

.

Scarlets

Cais: Harry Robinson 3’

Cic Gosb: Steve Shingler 1’