Leinster 18–12 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch yn erbyn Leinster ar yr RDS nos Sadwrn. Er i Sam Davies lwyddo gyda phedair cic gosb i’r ymwelwyr, fe drosodd Ian Madigan a Jimmy Gopperth dair yr un i Leinster wrth i’r Gwyddelod ennill.

Davies agorodd y sgorio wedi chwe munud cyn i Madigan unioni pethau’n fuan wedyn.

Ymestynnodd Madigan y fantais i chwe phwynt wedi hynny ond cyfartal oedd hi ar yr egwyl wedi i Davies drosi ddwywaith eto.

Cyfnewidiodd Gopperth a Davies dri phwynt yr un yn hanner cyntaf yr ail hanner ond y Gwyddelod aeth a hi yn y diwedd diolch i ddwy arall o droed Gopperth yn y deg munud olaf.

Mae’r Gweilch yn disgyn o frig y Pro12 i’r ail safle yn dilyn buddugoliaeth Munster dros Ulster nos Wener.

.

Leinster

Ciciau Cosb: Ian Madigan 9’, 16’, 21’, Jimmy Gopperth 52’, 72, 79’

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Sam Davies 6’, 30, 37’, 58’