Wrecsam 3–1 Aldershot

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth hir ddisgwyliedig wrth i Aldershot ymweld â’r Cae Ras yn y Gyngres brynhawn Sadwrn.

Roedd goliau Mark Carrington, Andy Bishop a Louis Moult yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Dreigiau.

Cyn hynny, roedd Dan Holman wedi rhoi’r ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi.

Roedd Wrecsam yn gyfartal wedi 25 munud pan orffennodd Carrington yn dda wedi gwaith creu Rob Evans.

Tri munud o’r ail hanner oedd wedi mynd pan aeth Wrecsam ar y blaen gyda Carrington yn creu y tro hwn a Bishop yn sgorio.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel wedi i Moult rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd Glenn Wilson arno yn y cwrt cosbi ugain munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry i’r deuddegfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama.

.

Wrecsam

Tîm: Flatt, White, Smith, Pearson (Tomassen 79′), Ashton, Carrington, Clarke (Harris – 74′), Evans, Jennings, Bishop, York (Moult 68′)

Goliau: Carrington 26’, Bishop 48’, Moult [c.o.s.] 71’

Cerdyn Melyn: Harris 90’

.

Aldershot

Tîm: Smith, Gibbs, Oastler, Wilson, Diallo, Hatton, Molesley (Derry 81′), Forbes (Fitchett 66′), Holman (Barker 46′), Williams, McCollin

Gôl: Holman 14’

.

Torf: 2,464