Caerliwelydd 2–3 Casnewydd

Dringodd Casnewydd i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth oddi cartref dros Gaerliwelydd ar Barc Brunton.

Roedd goliau Yan Klukowski, Ismail Yakubu a Shaun Jeffers yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt mewn gêm gyffrous.

Naw munud yn unig oedd ar y cloc pan beniodd Klukowski groesiad Chris Zebroski i gefn y rhwyd i roi’r Alltudion ar y blaen.

Roedd hi’n ddwy cyn yr egwyl yn dilyn gôl yr amddiffynnwr, Yakubu, ond tarodd Brad Potts yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner i hanneru’r fantais.

Sgoriodd y ddau dîm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, Jeffers i Gasnewydd ac yna David Amoo i Gearliwelydd, ond roedd Casnewydd wedi gwneud digon i ennill y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cymry i’r seithfed safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Caerliwelydd

Tîm: Hanford, Brown (Robson 87′), O’Hanlon, Thirlwell, Grainger, Potts, Brough (Beck 54′), Dempsey, Sweeney, Asamoah (Amoo 70′), Rigg

Goliau: Potts 52’, Amoo 90’

.

Casnewydd

Tîm: Stephens, Jackson, Yakubu, Jones, Hughes, Sandell, Porter (Chapman 80′), Minshull, Klukowski (Byrne 61′), O’Connor (Jeffers 80′), Zebroski

Goliau: Klukowski 9’, Yakubu 47’, Jeffers 90’

Cardiau Melyn: Sandell 77’, Chapman 84’, Zebroski 90’

.

Torf: 3,642