Watford 0–1 Caerdydd

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth oddi cartref o’r diwedd wrth ymweld â Vicarage Road i herio Watford brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl gynnar Adam Le Fondre yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau i gyd i’r Adar Gleision.

Deuddeg munud yn unig oedd ar y cloc pan gerddodd Le Fondre’r bêl i mewn i rwyd wag wedi i Kenwyne Jones ddod yn agos gyda pheniad.

Llwyr reolodd Watford y gêm wedi hynny ond fe lwyddodd yr ymwelwyr o Gymru i amddiffyn yn gadarn i sicrhau llechen lân a thri phwynt.

Mae’r pwyntiau hynny’n codi’r Cymry i’r wythfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Watford

Tîm: Gomes, Bassong Nguena, Ekstrand, Angella, Paredes (Forestieri 67′), Abdi (Guédioura 67′), Tozser, Munari, Anya, Deeney, Vydra

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Connolly (Fabio 52′), Morrison, Turner, Brayford, Pilkington (Ralls 70′), Gunnarsson (Adeyemi 73′) Whittingham, Noone, Le Fondre, Jones

Gôl: Le Fondre 12’

Cardiau Melyn: Le Fondre 71’, Noone 88’

.

Torf: 15,668