Abertawe 1–1 Crystal Palace

Bu rhaid i Abertawe fodloni ar gêm gyfartal wrth i Crystal Palace ymweld â’r Liberty brynhawn Sadwrn.

Er i Wilfred Bony roi’r Elyrch ar y blaen fe darodd Palace yn ôl gyda chic o’r smotyn Mile Jedinak.

Dechreuodd Abertawe’r gêm ar dân ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen pan rwydodd Bony o groesiad Gylfi Sigurdsson wedi chwarter awr, y blaenwr yn troi a rhwydo mewn un symudiad slic.

Roedd Palace yn well wedi i James McArthur ddod i’r cae hanner ffordd trwy’r hanner ac roeddynt yn gyfartal wedi 25 munud yn dilyn cic o’r smotyn ddadleuol. Doedd dim llawer yn y drosedd a ddyfarnwyd yn erbyn Jonjo Shelvey ar Marouane Chamakh ond fe rwydodd Jedinak yn hyderus i unioni’r sgôr o ddeuddeg llath.

Cafodd Abertawe gyfleoedd i’w hennill hi yn yr ail hanner ac er i Sigurdsson a Shelvey ddod yn agos bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn y diwedd.

Mae Abertawe’n aros yn seithfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Bartley, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Shelvey, Routledge (Barrow 65′), Sigurdsson, Montero, Bony (Gomis 75′)

Gôl: Bony 15’

.

Crystal Palace

Tîm: Speroni, Ward, Dann, Hangeland, Kelly, Puncheon (Zaha – 81′), Jedinak, Ledley, Bolasie, Chamakh (Campbell 66′), Gayle (McArthur 21′)

Gôl: Jedinak [c.o.s.] 25’

Cardiau Melyn: Chamakh 40’, McArthur 69’

.

Torf: 20,240