Mae hyfforddwr De Affrica Heyneke Meyer wedi gwneud pump newid i’w dîm ar gyfer eu gêm olaf yng nghyfres yr hydref yn erbyn Cymru dydd Sadwrn.
Mae’r prop Tendai Mtawarira, y bachwr Bismark du Plessis, y cefnwr Willie le Roux a’r asgellwyr Cornal Hendricks a Lwazi Mvovo i gyd yn dychwelyd i’r tîm.
Bydd De Affrica yn gorfod gwneud heb rhai o’u prif sêr ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru, gan fod chwaraewyr fel Bryan Habana, JP Pietersen a Johan Goosen wedi gorfod dychwelyd i’w clybiau yn Ffrainc a Siapan.
Nid yw Schalk Burger, Morne Steyn na Jano Vermaak ar gael i’r Springboks chwaith oherwydd bod y gêm hon yn disgyn y tu allan i’r cyfnod swyddogol ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref.
Y canolwr Jean de Villiers, sydd â 105 o gapiau dros ei wlad, fydd yn arwain De Affrica unwaith eto.
Fe fydd Warren Gatland yn enwi tîm Cymru fory, wrth iddo aros i weld a fydd chwaraewyr fel George North, Gethin Jenkins, Leigh Halfpenny a Rhys Webb yn ffit ar gyfer y gêm.
Tîm De Affrica: Willie le Roux, Cornal Hendricks, Jan Serfontein, Jean de Villiers (capt), Lwazi Mvovo, Pat Lambie, Cobus Reinach; Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Coenie Oosthuizen, Eben Etzebeth, Victor Matfield, Teboho Mohoje, Duane Vermeulen
Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Julian Redelinghuys, Lood de Jager, Nizaam Carr, Francois Hougaard, Handré Pollard, Damian de Allende