Warren Gatland
Bydd hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn aros nes dydd Iau i gyhoeddi ei dîm i herio De Affrica’r penwythnos hwn, yn dilyn argyfwng anafiadau yn y rheng flaen.
Mae amheuon dros ffitrwydd Gethin Jenkins a Nicky Smith ar gyfer gêm olaf cyfres yr hydref, ac mae prop y Scarlets Rob Evans yn ymarfer gyda’r tîm rhag ofn nad ydi’r un o’r ddau yn gwella mewn pryd.
Dyw Gatland ddim chwaith yn medru galw ar Paul James, Richard Hibbard na Rhys Gill, sydd i gyd yn chwarae i glybiau yn Lloegr ac felly ddim yn cael chware dros Gymru mewn gêm sydd y tu allan i ddyddiau swyddogol y gemau rhyngwladol.
Oedi cyn enwi
Roedd disgwyl y byddai Gatland yn enwi’r pymtheg fydd yn herio De Affrica mewn cynhadledd i’r wasg dydd Mawrth, ond fe fydd nawr yn enwi’r tîm dydd Iau.
Fe fethodd Gethin Jenkins y gêm yn erbyn Seland Newydd yr wythnos hon ar ôl anafu llinyn y gâr yn erbyn Fiji, ond mae disgwyl iddo ailddechrau ymarfer yr wythnos hon.
Mae Nicky Smith yn debygol o fethu’r gêm yn erbyn De Affrica ar ôl rhwygo cyhyr yn ei frest dydd Sadwrn – mae’n cael sgan yr wythnos hon i weld pa mor ddrwg yw’r niwed.
Fe allai hynny weld Rob Evans, sydd yn 22 oed, yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru’r penwythnos hwn.
Fe fydd yn rhaid i Gymru wneud heb y maswr James Hook ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica hefyd, gan ei fod ef yn gorfod dychwelyd i’w glwb Caerloyw.
Ond mae’r Cymry sydd yn chwarae i glybiau yn Ffrainc wedi cael caniatâd i chwarae dros eu gwlad y penwythnos hwn, ac mae Northampton hefyd yn caniatáu i George North chwarae dros ei wlad yng ngêm olaf y gyfres.
Dim Habana i Dde Affrica
Mae gan Dde Affrica eu habsenoldebau eu hunain ar gyfer y gêm, wedi i dri o’u sêr gael eu hatal rhag chwarae yn y gêm gan eu clybiau.
Ni fydd yr asgellwr Bryan Habana yn cael caniatâd i chwarae gan ei glwb Toulon, ac mae’r un peth yn wir am y canolwr JP Pietersen a’r blaenasgellwr Schalk Burger.
Dyw Morne Steyn, Johan Goosen na Jano Vermaak yn cael chwarae chwaith oherwydd gorchymyn eu clybiau yn Ffrainc, tra bod y clo Bakkies Botha wedi penderfynu ymddeol o’r tîm rhyngwladol.
Fe fydd Cymru’n ceisio trechu De Affrica am y tro cyntaf ers 1999 pan fydd y ddau yn herio’i gilydd yn Stadiwm y Mileniwm ar brynhawn Sadwrn.