George Williams (chwith) yn herio amddiffynwyr Gwlad Belg yn eu gêm ragbrofol (llun: CBDC)
Mae asgellwr Fulham George Williams wedi cyfaddef bod Lloegr wedi ceisio’i ddenu i chwarae pêl-droed rhyngwladol iddyn nhw llynedd, cyn iddo ennill cap dros Gymru eleni.

Fe geisiodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr berswadio Williams i symud draw i chwarae i’r Saeson, ar ôl i Gymru a Lloegr herio’i gilydd mewn gêm dan-21 ym mis Mai 2013.

Ond fe wrthododd Williams y cynnig, gan fynd ymlaen i ennill ei gap cyntaf dros Gymru ym mis Mehefin eleni mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd.

“Ffydd” Cymru

Mae disgwyl bod dyfodol disglair o flaen George Williams, sydd ddim ond yn 19 ar hyn o bryd ond yn chwarae’n rheolaidd i Fulham yn y Bencampwriaeth.

Fe chwaraeodd Williams i Gymru drwy gydol ei yrfa ieuenctid, er ei fod wedi’i eni yn Milton Keynes, a hynny am fod ei fam o Gymru.

Ac fe ddywedodd yr asgellwr mai’r ffydd a ddangosodd Cymru ynddo yw’r prif reswm pam wrthododd gynnig Lloegr.

“Fe ddywedais i wrthyn nhw [Lloegr] mod i’n hapus ble ydw i. Doedd e ddim yn benderfyniad anodd. Dw i wrth fy modd yn chwarae dros Gymru,” meddai Williams wrth y Daily Star.

“Dw i wedi bod yma ers mod i’n 17. Dw i’n teimlo’n fwy Cymreig nag erioed ar hyn o bryd. Dw i wrth fy modd ble ydw i a dw i’n falch o gael chwarae dros fy ngwlad.

“Mae [Chris] Coleman, Osian Roberts a holl chwaraewyr y tîm cyntaf wedi dangos ffydd ynof fi.”

Chwarae â Bale

Mae George Williams yn sicr wedi cael dechrau da i’w yrfa ryngwladol. Ar ôl serennu yn erbyn yr Iseldiroedd yn ei gêm gyntaf mae wedi chwarae ym mhob un o gemau rhagbrofol Ewro 2016 Cymru hyd yn hyn.

Daeth ymlaen fel eilydd ar yr egwyl yn erbyn Gwlad Belg, a chreu argraff unwaith eto wrth i fechgyn Coleman sicrhau gêm gyfartal er mwyn aros o fewn pwynt i frig y tabl.

Un o’r prif bethau mae’r asgellwr ifanc wedi’i fwynhau fwyaf am chwarae gyda Chymru yw camu i’r cae ochr yn ochr â seren Real Madrid, Gareth Bale.

“Faint o bobl sy’n medru dweud eu bod nhw wedi gwneud hynny yn eu bywydau? Dw i’n hapus ble ydw i ac yn mwynhau pob munud,” meddai Williams.

Mae’n hyderus hefyd bod rhagor o lwyddiant ar y ffordd i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Rydyn ni’n casglu’r pwyntiau nawr ac mae’n rhaid i ni gadw hynny i fynd. Mae wyth pwynt yn dda ac os gawn ni wyth pwynt arall fe wnawn ni’n dda,” ychwanegodd Williams.