Mae’r prop o Dde Affrica Brok Harris yn un o ddeg newid yn nhîm y Dreigiau wrth iddyn nhw baratoi i herio Harlequins i ffwrdd yng Nghwpan LV nos Wener.

Bydd Harris yn chwarae’i gêm gyntaf dros y rhanbarth ar ôl ymuno o dîm Western Province yn ddiweddar.

Mae gwŷr Gwent hefyd yn croesawu Ross Wardle, Cory Hill, Andrew Coombs a Joe Davies nôl ar ôl anafiadau.

Yr unig chwaraewyr sydd yn cadw’u lle yn y tîm o’r pymtheg gollodd i Ulster yn y Pro12 penwythnos diwethaf yw’r canolwr Matthew Pewtner, yr asgellwr Aled Brew, y clo James Thomas, y blaenasgellwr James Benjamin a’r wythwr Andy Powell.

Dorian Jones a Jonathan Evans fydd yr haneri, gyda Geraint Rhys Jones yn gefnwr a’r asgellwr ifanc Ashton Hewitt hefyd yn dod i mewn i’r tîm.

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Ashton Hewitt, Matthew Pewtner, Ross Wardle, Aled Brew, Dorian Jones, Jonathan Evans; Owen Evans, Elliot Dee, Brok Harris, James Thomas, Cory Hill (capt), Andrew Coombs, James Benjamin, Andy Powell

Eilyddion: Hugh Gustafson, Phil Price, David Young, Joe Davies, Ollie Griffiths, Luc Jones, Barney Nightingale, Rhys Williams