Mae Abertawe wedi cyhoeddi ar eu gwefan fod yr ymosodwr Wilfried Bony ar fin arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Mae Bony yn gobeithio ymestyn ei gytundeb am flwyddyn ychwanegol tan 2018.
Yn ystod ei dymor cyntaf, sgoriodd Bony 25 o goliau i’r Elyrch, ac mae e eisoes wedi sgorio pedair gwaith yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Dywedodd: “Mae’r trafodaethau’n mynd yn dda iawn. Gobeithio y daw popeth i ben yr wythnos hon.
“Mae gen i berthynas wych gyda fy nghyd-chwaraewyr, y staff a’r cefnogwyr.
“Mae’n glwb gwych a dw i’n hapus iawn i fod yma.
“Dw i’n canolbwyntio ar Abertawe ac fe fyddai estyniad o flwyddyn yn berffaith i fi.”
Gemau rhyngwladol
Mae Bony wedi’i gynnwys yng ngharfan Côte d’Ivoire ar gyfer eu gêm ragbrofol yng Nghwpan Gwledydd Affrica yn erbyn Cameroon a Sierra Leone.
Ymhlith y chwaraewyr eraill fydd yn teithio i bedwar ban y byd o Abertawe mae Federico Fernandez (Yr Ariannin), Ki Sung-Yueng (De Corea), Lukasz Fabianski (Gwlad Pwyl).
Mae Tom Carroll wedi’i enwi yng ngharfan dan 21 Lloegr i herio Portiwgal a Ffrainc, tra bydd Giancarlo Gallifuoco yng ngharfan dan 23 Awstralia ar gyfer cystadleuaeth pedair gwlad yn erbyn Brasil, Tsieina a De Corea.
Mae Jay Fulton ac Adam King hefyd wedi’u cynnwys yng ngharfan dan 21 Yr Alban ar gyfer eu gêm yn erbyn Y Swistir.