Scarlets 28–13 Zebre
Ciciodd Steve Shingler dri phwynt ar hugain wrth i’r Scarlets drechu Zebre ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.
Un cais yr un oedd hi yn y diwedd, ond cicio cywir maswr y Scarlets oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm wrth i Fois y Sosban ennill yn gymharol gyfforddus.
Cafodd dwy gic lwyddiannus gyntaf Shingler eu hateb gan Edoardo Padovani wrth i Zebre aros yn y gêm yn y 25 munud cyntaf.
Ychwanegodd Shingler drydedd cyn i Zebre fynd ar y blaen gyda chais cyntaf y gêm wedi hanner awr. Y clo, Valerino Bernabo, gafodd y cais hwnnw, 9-13 y sgôr.
Roedd y Scarlets o fewn pwynt ar yr egwyl yn dilyn cic arall gan Shingler, ac fe ychwanegodd y maswr bumed a chweched yn gynnar yn yr ail hanner i roi Bois y Sosban ar y blaen, 18-13.
Cafodd y ddau dîm gerdyn melyn yr un wedi hynny ac fe agorodd hynny le i Steffan Hughes sgorio cais cyntaf y Scarlets ar yr awr yn dilyn sgrym gref.
Trosodd Shingler hwnnw cyn ychwanegu cic gosb arall yn hwyr yn y gêm, 28-13 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn seithfed yn nhabl y Pro12.
.
Scarlets
Cais: Steffan Hughes 60’
Trosiad: Steve Shingler 60’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 6’, 13’, 28’, 33’, 42’, 47’, 78’
Cerdyn Melyn: George Earle 54’
.
Zebre
Cais: Valerino Bernabo 29’
Trosiad: Edoardo Padovani 30’
Ciciau Cosb: Edoardo Padovani 18’, 25’
Cerdyn Melyn: Dario Chistolini 52’