Gleision Caerdydd 24–28 Munster
Cafodd y Gleision eu curo gan gais hwyr Paddy Butler wrth i Munster ymweld â Pharc yr Arfau yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.
Er mai’r Gwyddelod oedd ar y blaen am ran helaeth o’r gêm, fe frwydrodd y Gleision yn ôl i fod ar y blaen gyda thri munud i fynd. Ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn y diwedd yn dilyn cais hwyr nodweddiadol gan Munster.
Doedd dim yn gwahanu’r ddau dîm yn y chwarter awr cyntaf wedi i Rhys Patchell a JJ Hanrahan gyfnewid dwy gic gosb yr un.
Roedd Munster chwe phwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn dwy gic lwyddiannus arall gan Hanrahan.
Cyfnewidiodd Patchell a Hanrahan gic gosb yr un eto wedyn cyn i’r Gleision groesi am gais cyntaf y gêm. Lucas Amorosino gafodd hwnnw, yr Archentwr ar yr asgell yn sgorio yn ei gêm gyntaf i’r Gleision.
Munster serch hynny gafodd air olaf yr hanner cyntaf wrth i chweched cic Hanrahan ymestyn y fantais i bedwar pwynt, 14-18 ar yr egwyl.
Aeth y Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm toc wedi’r awr diolch i gais yr wythwr, Manoa Vosawai, a throsiad Gareth Davies.
Cyfnewidiodd Hanrahan a Davies gic yr un wedi hynny ac roedd y Gleision yn parhau dri phwynt ar y blaen wrth dynnu at ddiwedd yr wyth deg.
Ond, croesodd Butler am y cais tyngedfenol dri munud o’r diwedd i dorri calon y Gleision. Mae’r pwynt bonws serch hynny’n ddigon i godi’r Gleision i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12, tan i’r Dreigiau chwarae yn Ulster o leiaf.
.
Gleision
Ceisiau: Lucas Amorosino 33’, Manoa Vosawai 62’
Trosiad: Gareth Davies 63’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 8’, 13’, 23’, Gareth Davies 73’
.
Munster
Cais: Paddy Butler 77’
Trosiad: Johnny Holland 78’
Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 2’, 10’, 15’, 19’, 32’, 39’, 69’