Wrecsam 0–0 Halifax

Gêm gyfartal ddi sgôr gafwyd ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth i Wrecsam groesawu Halifax yn y Gyngres.

Digon diflas oedd yr hanner cyntaf cyn i bethau wella ychydig wedi’r egwyl, gyda’r tîm cartref yn cael y gorau o’r cyfleoedd.

Daeth Andy Bishop yn agos i’r Dreigiau ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.

Nid yw hwn yn ganlyniad ofnadwy yn erbyn y tîm a ddechreuodd y dydd yn ail yn nhabl y Gynres ond mae Wrecsam yn llithro i’r unfed safle ar ddeg yn dilyn y gêm ddi sgôr.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Pearson, Ashton, Smith, Hudson, Carrington, Clarke, Durrell, Hunt (Jennings 74′), Bishop, York (Keates 89′)

.

Halifax

Tîm: Glennon, Roberts, Ainge, Williams, Roberts, Pearson (Smith 63′), Maynard, McManus, Marshall, Peniket, Boden

Cardiau Melyn: Roberts 73’, Marshall 84′

.

Torf: 3,421